Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 16 Mehefin 2015
Amser: 09.00 -
10.59
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/2924
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Darren Millar AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Jocelyn Davies AC Mike Hedges AC Sandy Mewies AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC |
Tystion: |
Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Joanna Jordan, Llywodraeth Cymru Dr Grant Robinson, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Michael Kay (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Huw Vaughan Thomas (Cynghorwr Arbenigol) Dave Thomas (Cynghorwr Arbenigol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Penderfynodd y Pwyllgor ddechrau’r sesiwn dystiolaeth gyda Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru gyda thrafodaeth ar lywodraethu byrddau iechyd. Oherwydd bod amser yn brin, ni chyrhaeddwyd yr eitem hon a bydd yn cael ei haildrefnu.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru a Joanna Jordan, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol a Phartneriaethau, Llywodraeth Cymru, fel rhan o'i ymchwiliad i Lywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru.
4.2 Cytunodd Dr Goodall i:
· gadarnhau amseriad adroddiad Capita ar gynllunio ariannol, pan fyddai’r Bwrdd yn trafod ei ymateb dros dro.
· darparu nodyn o'r holl ddigwyddiadau difrifol yn deillio o lefel nyrsys / ward yn ystod y deuddeg mis diwethaf ledled Cymru.
· darparu nodyn o aelodau annibynnol presennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'u sgiliau a’r profiad o recriwtio pobl o gefndiroedd ariannol / masnachol.
· darparu nodyn ar gydymffurfio â’r Polisi Disgyblu Cymru Gyfan (a chopi o'r polisi).
· anfon copi o'r adroddiad gan y Gymdeithas Frenhinol y Seiciatryddion a'r camau a gymerwyd.
· darparu nodyn ar agweddau gweithredol y gwasanaeth y tu allan i oriau.
5.1 Gwrthodwyd y cynnig.
6.1 Oherwydd bod amser yn brin, ni chyrhaeddwyd yr eitem hon.
7.1 Oherwydd bod amser yn brin, ni chyrhaeddwyd yr eitem hon.